Aeneas

Aeneas
Enghraifft o'r canlynolcymeriad chwedlonol Groeg, bod dynol ffuglennol Edit this on Wikidata
Crëwranhysbys Edit this on Wikidata
GwladGroeg yr Henfyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymeriad ym mytholeg Roeg a mytholeg Rufeinig yw Aeneas (Groeg: Αἰνείας, Aineías). Ymddengys yn yr Iliad fel un o'r ymladdwyr yn Rhyfel Caerdroea, ac ef yw arwr yr Aenid gan Fyrsil.

Mae Aeneas yn fab i'r tywysog Anchises a'r dduwies Aphrodite (Gwener); mae Anchises yn gefnder i Priam, brenin Caerdroea. Yn yr Iliad, ef yw arweinydd y Dardaniaid sy'n ymladd ar ochr Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac mae'n un o gynghreiriaid agosaf Hector. Yn yr ymladd, caiff gymorth ei fam, Aphrodite.

Pan syrth y ddinas, mae Aeneas yn un o'r ychydig o amddiffynwyr Caerdroea nad ydynt yn cael eu lladd neu eu gwneud yn gaethion. Mae'n gadael y ddinas yn cario ei dad, Anchises, ar ei gefn, gyda'i ddilynwyr. Maent yn hwylio ymaith, ac ar ôl chwe mlynedd o gwydro yn cyrraedd dinas Carthago, lle mae'r frenhines Dido yn syrthio mewn cariad ag Aeneas. Er hynny, mae Aeneas yn mynnu gadael, ac yn teithio i'r Eidal ac ymsefydlu yn Latium, lle mae'n priodi Lavinia, merch y brenin Latinus, ac yn sefydlu dinas Lavinium. Yn ddiweddarach, mae ei fab, Ascanius, yn sefydlu dinas Alba Longa, a gyfrannodd at sefydlu dinas Rhufain.

Ystyriai brenhinoedd Teyrnas Rhufain eu hunain fel disgynyddion Aeneas, ac roedd teulu yr Iulii, yn eu plith Iŵl Cesar, yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion Aeneas, a felly'n ddisgynyddion y dduwies Gwener.

Yn adran gyntaf yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, ceir hanes Aeneas Ysgwydwyn a'i ddisgynnydd Brutus, sydd yn cael gweledigaeth gan y dduwies Diana, ac yn hwylio i'r "Ynys Wen" sy'n cael ei henwi'n Brydain ar ei ôl (Prydain="gwlad Brutus" yn ôl Sieffre). Rhennir yr ynys yn dair teyrnas ar farwolaeth Brutus: caiff ei fab hynaf Locrinus deyrnas Lloegr, mae Albanactus yn cael Yr Alban a Camber yn cael Cymru (Cambria).

Aeneas yn ffoi o Gaerdroa, paentiad gan Federico Barocci, 1598