Herwlongwriaeth

Yr arfer o ymosod ar longau gwledydd eraill a'u hysbeilio a hynny gydag awdurdod llywodraethol yw herwlongwriaeth neu breifatirio. Rhoddir yr enw preifatîr (o'r Saesneg privateer) neu herwlong ar long a ddefnyddir at y diben hwn, a gelwir capten y fath long hefyd yn breifatîr neu'n herwlongwr. Mae herwlongwriaeth yn wahanol i fôr-ladrad, sef ysbeilio heb ganiatâd unrhyw lywodraeth. Yn ystod Oes Elisabeth, derbyniodd sawl morwr Seisnig nawddogaeth gudd oddi wrth y Frenhines Elisabeth I i ysbeilio llongau trysor Sbaen ym Môr y Caribî. Ymosodwyd ar lynges Sbaen ym Mae Cádiz gan Syr Francis Drake yn 1587, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen". Yn y 1590au ymosodwyd ar drefedigaethau Ymerodraeth Sbaen yn y Caribî gan Christopher Newport. a lwyddodd hefyd i gipio sawl llong oddi ar y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid.